GRŴP TRAWSBLEIDIOL AR SIOPAU BACH
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd am 11.30 ar 29 Ionawr 2014 yn Nhŷ Hywel
YN BRESENNOL:
Janet Finch-Saunders AC (JFS) |
Cadeirydd |
Keith Davies AC (KD) |
Aelod |
Mark Isherwood AC (MI) |
|
Tom Evans (TE) |
Ardal Gwella Busnes Casnewydd |
Alan Edwards (AE) |
Siambr Fasnach Casnewydd |
Adrian Roper (AR) |
Ffederasiwn Cenedlaethol Manwerthwyr Papurau Newydd |
Mair Roberts (MRR) |
Ysgrifennydd |
Shane Brennan (SB) |
Y Gymdeithas Siopau Cyfleus |
Neil Moss (NM) |
Academi Sgiliau Cenedlaethol ar gyfer Manwerthu |
William Lloyd Williams (WLW) |
Ffederasiwn Cenedlaethol Masnachwyr Cig a Bwyd |
Nathan Walmsley |
Filco Supermarkets |
Mark Roberts (MR) |
The Co-operative Group |
Michael Weedon |
Cymdeithas Manwerthwyr Annibynnol Prydain |
Craig Lawson (CL) |
Suzy Davies AC |
Sophie Traherne (ST) |
Swyddfa'r Grŵp Ceidwadol |
Owen Davies (OD) |
Owen Davies Consulting |
Chris Jones (CJ) |
Chris Jones Regeneration |
Chris Wade (CW) |
Action for Market Towns |
Mike Cisuelo (MC) |
Booker Wholesale |
2.CYFLWYNIAD
Croesawodd y Cadeirydd bawb i ail gyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol (CPG) a chyflwynodd CW, OD a CJ, a fyddai'n sôn am eu profiadau o brosiectau adfywio ledled Cymru.
2.CYFLWYNIADAU GAN ACTION FOR MARKET TOWNS
Cafwyd cyflwyniadau gan CW o Action for Market Towns a'r ymgynghorwyr adfywio OD a CJ ar brosiectau adfywio ledled Cymru.
Agorwyd y cyflwyniad gan CW, a roddodd drosolwg cyffredinol o bwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth mewn prosiectau adfywio stryd fawr yng Nghymru a rhoi pwyslais ar dwf. Tynnodd sylw hefyd at yr angen i ddeall anghenion penodol tref neu ddinas wrth wneud gwaith adfywio. Pwysleisiwyd bod parcio yn broblem sy'n wynebu llawer o fusnesau annibynnol yn nhrefi Cymru.
Yna rhoddodd OD a CJ enghreifftiau penodol o bartneriaethau canol tref llwyddiannus yng Nghymru. Yr astudiaethau achos a ddefnyddiwyd oedd: Dolgellau, Bangor, Castell-nedd ac Ystradgynlais. Amlygwyd, mewn rhai achosion, bod nifer o grwpiau busnes ac adfywio yn bodoli mewn tref ond yn methu â gweithio gyda'i gilydd. Argymhellwyd y dylai'r grwpiau hyn gydweithio er mwyn cyflawni canlyniadau cyson.
Trafodaeth
Yn dilyn y cyflwyniad, trafodwyd nifer o faterion:
Ardaloedd Gwella Busnes
Cafwyd trafodaeth fer ar ddiben Ardaloedd Gwella Busnes (AGB) a'r hyn y maent yn gallu ei gyflawni. Rhannodd TE o AGB Casnewydd y sylw bod llawer o grwpiau yn ceisio cyflawni'r un canlyniadau ar gyfer adfywio'r ddinas cyn creu AGB Casnewydd. Ei gasgliad ef oedd bod yr AGB yn ffordd adeiladol o ddod â gwahanol randdeiliaid at ei gilydd i gyflawni'r un nod.
Amser ac adnoddau
Nodwyd gan WLW bod nifer o fanwerthwyr yn ei chael yn anodd gallu cymryd amser i ffwrdd o redeg eu busnes i fynychu cyfarfodydd, fel cyfarfodydd AGB. Roedd hefyd yn ofni fod yna apathi ymhlith rhai manwerthwyr annibynnol o ran y materion hyn.
Arweiniad
Tynnwyd sylw at bwysigrwydd rôl arweinydd effeithiol mewn partneriaethau canol tref gan sawl aelod o'r grŵp.
Yn y pen draw, cytunwyd bod llwyddiant partneriaeth yn dibynnu ar uno grwpiau sydd eisoes yn bodoli mewn ardal benodol; byddai hyn yn creu cydlyniant o ran y nodau sydd eu hangen i adfywio canol y dref dan sylw.
Cyfarfodydd y dyfodol
Cytunwyd mai pwnc y cyfarfod nesaf yn y gwanwyn fydd cynllunio, o gofio bod Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y Bil Cynllunio ar hyn o bryd.
Cytunwyd hefyd y bydd derbyniad yn cael ei gynnal yn y Senedd ym mis Gorffennaf i ddathlu cyfraniad siopau bach i economi Cymru. Estynnir gwahoddiad i'r digwyddiad i Aelodau'r Cynulliad, cynrychiolwyr o gyrff masnach manwerthu bach a'u haelodau sy'n gweithredu yng Nghymru.